Charmaine Macmuiris
Mae teulu a ffrinidau Charmaine Macmuiris wedi bod yn talu teyrnged iddi ar ôl iddi gael ei chanfod yn farw mewn tŷ ym Maes yr Ysgol, Caerfyrddin ddydd Nadolig.

Cafodd yr heddlu eu galw yno am 10.50 fore Nadolig ac fe wnaethon nhw arestio dyn lleol 28 oed,yn y fan a’r lle.

Mae o’n parhau i gael ei holi gan yr heddlu.

Roedd Ms Macmuiris yn 37 oed ac yn fam i dri o blant.

Mae yna dros fil o deryngedau iddi ar y wefan gymdeithasol Facebook hyd yn hyn.

Yn ôl Amanda Rosser, roedd Ms Macmuiris  “yn ferch dawel, hyfryd” ac mae llawer yn estyn eu cydymdeimlad i’w phlant, ei rhieni a’i brodyr a’i chwiorydd.