Comisiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi datgelu wrth golwg360 ei bod wedi gofyn am gael sgwennu erthygl yn y Daily Mail, yn ateb sylwadau ymfflamychol wnaed am yr iaith Gymraeg yn y papur newydd fis Tachwedd.

Roedd Roger Lewis wedi honni fod yna Daliban Iaith yng Nghymru sy’n gormesu pobol di-Gymraeg.

Hefyd roedd wedi ailadrodd honiad wnaed ar wefan BiLingo fod plant bach yng Ngheredigion yn gorfod gofyn i gael mynd I’r tŷ bach yn Gymraeg yn unig – mae’r honiad hwnnw bellach wedi ei ddileu o’r wefan ac er i gwynion BiLingo gael sylw hael gan y Daily Mail, y Daily Telegraph a’r BBC, does neb yn gwybod pwy yw awdur neu awduron BiLingo.

Meddai llefarydd Meri Huws: “Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ysgrifennu at Reolwr Golygyddol y Daily Mail gan ofyn am y cyfle i ysgrifennu erthygl yn ateb rhai o’r sylwadau a wnaed.  Nid yw wedi derbyn ateb gan y Daily Mail hyd yma.”

“Agosau at fod yn hiliol”

Nôl ym mis Tachwedd fe ddywedodd y Comisiynydd bod erthygl Roger Lewis “yn hollol annerbyniol”.

“Fyswn i’n dweud ei fod yn agosau at fod yn hiliol, ac rydw i wedi cael fy siomi,” ychwanegodd Meri Huws.

Fe ddatgelodd y Comisiynydd ei bod hi a’i swyddogion “yn ystyried beth ddyla’r camau fod, ac ry’n ni’n anhygoel o anhapus gyda’r hyn rydan ni wedi ei weld yr wythnos yma.”

Aeth ymlaen mewn datganiad: “Rydym ni wedi gweld newyddiaduraeth sy’n hollol annerbyniol yn y papurau Prydeinig yn ddiweddar, ac mae’n siom ac yn ddychryn i mi bod golygyddion y papurau hyn yn credu ei bod hi’n iawn iddynt gyhoeddi erthyglau sy’n agosáu at fod yn hiliol yn y ffordd y maent yn ymdrin â siaradwyr Cymraeg.”