Ynys Enlli
Mae’r Llywodraeth yn Llundain yn dechrau ymgynghori ar greu 31 safle cadwraeth allan yn y môr o amgylch Lloegr a Chymru.
Mae cynlluniau Llundain a Defra ar wahân i gynlluniau dadleuol Llywodraeth Cymru i sefydlu 10 parth cadwraeth ar arfordir Cymru.
Ymhlith y safleoedd sy’n cael eu cynnig gan Defra mae un parth 761Km² o faint oddi ar Ynys Enlli, a dau barth tua 40km o Benmaen Dewi.
Ni fydd yr un o’r parthau yn cael y statws mwyaf gwarchodedig, a fyddai’n golygu gwahardd pob gweithgaredd o fewn y parth, megis pysgota.
Bydd y 31 safle yn dod o blith 127 o safleoedd a gafodd eu cynnig, ac mae Cymdeithas Cadwraeth y Môr wedi dweud fod dynodi dim ond 31 safle yn dangos “diffyg uchelgais a diffyg gofal am y 59 safle y dywedwyd eu bod nhw mewn perygl difrifol.”
“Ni faswn ni’n sefyll a disgwyl i ddolydd blodau gwyllt neu goedwigoedd hynafol gael eu palu a’u clirio, ond eto mae offer pysgota trwm yn cael eu llusgo dros bob math o gynefinoedd, gan ddinistrio gwely’r môr heb fawr o reolaeth,” meddai Dr Jean-Luc Solandt, o Gymdeithas Cadwraeth y Môr.
Parthau Cymru
Yng Nghymru mae’r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wedi cynnal cymal cyntaf ymgynghoriad ar greu parthau cadwraeth ar arfordir Cymru, ond nid oes disgwyl penderfyniad gan y Llywodraeth yn fuan.
Fis diwethaf dywedodd John Griffiths fod “cyfnod o waith pellach i ystyried ac ymchwilio’n llawn i’r holl wybodaeth sydd wedi dod i law.”
Mae grŵp wedi cael ei sefydlu i drafod y parthau a bydd yn adrodd i Weinidog yr Amgylchedd erbyn diwedd mis Ebrill 2013.