Mae  Airbus wedi cyhoeddi archeb a fydd yn diogelu miloedd o swyddi, meddai’r cwmni awyrennau.

Mae’r archeb am 100 o awyrennau gan AirAsia yn mynd i ddiogelu 1,500 o swyddi gydag Airbus yn ogystal â 7,500 o swyddi eraill.

Roedd y Prif Weinidog, David Cameron, yn ffatri Airbus ym Mrychdyn yn Sir y Fflint gyda sylfaenydd AirAsia pan gafodd y cytundeb ei gyhoeddi. Fe fydd yr adenydd ar gyfer yr awyrennau yn cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn.

Dywedodd David Cameron: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn hwb aruthrol i’r gweithlu ac ar gyfer y diwydiant yn y DU.”

Meddai sylfaenydd AirAsia, Tan Sri Dr Tony Fernandes: “Bydd yr archeb hon yn bodloni ein gofynion ni yn y tymor  byr a chanolig wrth i ni weld y galw’n parhau i gynyddu ar draws ein rhwydwaith.”

“Mae’r A320 wedi chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant ac yn ein galluogi i gynnig y prisiau isaf posib i’n teithwyr.”

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, hefyd wedi croesawu’r datganiad.

“Mae’r buddsoddiad newydd yma gan AirAsia yn dyst i’r hyder sydd ganddyn nhw yn nhalent a gallu arloesol yng ngweithlu Airbus ac mae’r safle ym Mrychdyn yn chwarae rhan hanfodol yn ei lwyddiant byd-eang.”

‘Newyddion ardderchog’

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r Gweinidog Busnes Edwina Hart hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn “newyddion ardderchog ac yn hwb arall” i’r safle ym Mrychdyn.

“Hoffwn i longyfarch Airbus am ennill y cytundeb sylweddol hwn a fydd yn diogelu cannoedd o swyddi yng ngogledd Cymru.”

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi cefnogaeth i’r safle ym Mrychdyn gan roi £28.66 miliwn i ddatblygu’r ffatri cynhyrchu adenydd.