Cafwyd y cwymp mwyaf yn nifer y diwaith yn y DU ers degawd, yn ol ffigurau gafodd eu cyhoeddi heddiw.
Roedd nifer y bobl sy’n ddiwaith yn y DU wedi gostwng 82,000 yn y tri mis hyd at fis Hydref i 2.51 miliwn, gostyngiad o 128,000 ers y llynedd.
Yng Nghymru bu gostyngiad o 15,000 i 117,000, sef 7.9% o’r boblogaeth.
Yn ol y Swyddfa Ystadegau dyma’r gostyngiad chwarterol mwyaf yn y DU ers y gwanwyn 2001.
Roedd nifer y rhai sydd mewn gwaith wedi cynyddu 40,000 i 29.6 miliwn, y nifer uchaf ers i gofnodion ddechrau ym 1971, a chynnydd o hanner miliwn ers y llynedd.
Y sector cyhoeddus
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gostyngiad wedi bod yn y nifer sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus ond cynnydd yn nifer y rhai sy’n gweithio i gwmnïau preifat.
Bu gostyngiad o 24,000 i 5.7 miliwn yn nifer y rhai sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus – y ffigwr isaf ers 2002.
Roedd cyflogaeth o fewn y sector preifat wedi cynyddu 65,000 yn y chwarter olaf i 23.8 miliwn.
Mae nifer y rhai sy’n hawlio lwfans chwilio am waith wedi gostwng 3,000 ym mis Tachwedd i 1.58 miliwn.
Ond bu cynnydd o 60,000 yn nifer y rhai sy’n edrych ar ôl teulu, neu i ffwrdd o’r gwaith am gyfnod hir oherwydd salwch, neu sydd wedi rhoi’r gorau i chwilio am waith, sef 9.07 miliwn o’r boblogaeth.
Bu cwymp o 72,000 yn nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n ddi-waith, i 945,000.
‘Calonogol’
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bod y ffigyrau yn “dangos bod economi Cymru’n parhau i ddangos arwyddion positif.”
“Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £227 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ac rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn ysgogi swyddi a thwf yng Nghymru.”
Dywedodd y gweinidog busnes Edwina Hart bod y ffigurau heddiw yn galonogol i Gymru.
Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng tra bod Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) wedi codi 1.9% y pen, meddai Edwina Hart.
“Serch hynny mae’r economi’n parhau’n ansicr iawn oherwydd perfformiad gwael yr economi’n fyd eang, ac ni fydd rhagor o doriadaumewn gwariant gan Lywodraeth y DU yn helpu i hybu twf a swyddi.
“Ry’n ni’n gwneud popeth yn ein gallu i geisio cael pobl yn ôl mewn swyddi neu hyfforddiant.”
‘Angen penderfyniadau pendant’
Wrth ymateb i’r ffigurau diweithdra heddiw, dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Owen Smith: “Mae’r gostyngiad mewn diweithdra i’w groesawu, yn enwedig yng Nghymru lle mae diweithdra wedi gostwng 15,000.
“Fodd bynnag, all y Llywodraeth ddim fforddio bod yn hunanfodlon.
“Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel a gydag un o bob deg gweithiwr yng Nghymru yn cael eu tangyflogi, dylai’r Llywodraeth edrych eto ar eu newidiadau i gredydau treth i deuluoedd, newidiadau sy’n cosbi’r rhai yng Nghymru sydd mewn gwaith ond sydd methu dod o hyd i’r oriau ychwanegol sydd ei angen i dalu am gynnydd yn y gost o fyw.”
Dywedodd Nick Ramsey AC, y llefarydd Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru, ei fod yn croesawu’r “gostyngiad dramatig mewn diweithdra – un o’r mwyaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU.”
“Ond mae’n bwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn chwarae ei rhan drwy wneud penderfyniadau cyflym i ddarparu’r sicrwydd a’r amodau lle gall busnesau bach a chanolig ffynnu,” ychwanega.