Y llifogydd yn Llanelwy
Dyw trefniadau yng Nghymru ar gyfer delio gydag argyfyngau mawr ddim yn ddigon cry’ nac effeithiol, meddai’r Swyddfa Archwilio.

Mewn adroddiad, sydd wedi’i gyhoedd ychydig tros wythnos ers llifogydd mawr yn y Gogledd, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn dweud hefyd y bydd toriadau gwario’n cael effaith mawr.

Un o’r problemau, yn ôl yr adroddiad, yw bod dryswch tros bwy sy’n arwain y gwaith – ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth Prydain.

Argymelliadau

Mae’r Swyddfa’n galw am fwy o gydweithio rhwng  y Llywodraeth yng Nghaerdydd a Swyddfa’r Cabinet yn Llundain – dyna un o wyth argymhelliad.

Er hynny, mae’n canmol Llywodraeth Cymru am roi cefnogaeth “effeithiol iawn” i’r prif wasanaethau brys.

Yn y dyfodol, mae’r adroddiad yn rhybuddio y gallai’r toriadau gwario arwain at doriadau yng ngallu’r awdurdodau i ymateb i argyfyngau.

Yr ymateb

Mae’r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi galw am gryfhau’r drefn ond, yn ôl y Llywodraeth, mae yna drefn gadarn.

“Mae gyda ni drefniadau cryf, sydd wedi eu profi, er mwyn ymateb i argyfyngau ac yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o gyrff led led Cymru a’r Deyrnas Unedig, lle bo angen,” meddai llefarydd.