Ellen ap Gwynn
Cafodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ei henwi yn Wleidydd Lleol y Flwyddyn neithiwr.

Cafodd y wobr ei chyflwyno iddi yng Ngwobrau Gwleidyddol Cymreig y Flwyddyn y Wales Yearbook mewn seremoni yn Neuadd Dinas Caerdydd.

Mae Gwobrau Gwleidyddol Cymreig y Flwyddyn yn cydnabod cyfraniad Aelodau Seneddol, Aelodau Seneddol Ewropeaidd, Aelodau Cynulliad, gwleidyddion lleol a gweithredwyr dros achosion arbennig.

Meddai’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Roedd yn fraint o’r mwyaf i dderbyn y wobr hon, nid yn unig i mi’n bersonol ond hefyd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae’r wobr yn amlygu gwaith ein swyddogion yn ogystal ag aelodau o bob plaid, ac mae’n cydnabod ymroddiad y Cyngor i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl Ceredigion.”

Meddai’r Cynghorydd Mark Cole, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Ellen yn llawn haeddu’r wobr arbennig hon, ac rwy’n falch bod Ceredigion yn cael cydnabyddiaeth o ganlyniad i’w harweinyddiaeth.”

Fe enillodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, Aelod Cynulliad y flwyddyn ac aeth Lianne Wood a gwobr Ymgyrchydd y Flwyddyn yn dilyn ei hymgyrch llwyddiannus i fod yn Arweinydd Plaid Cymru.

Aeth gwobr gwleidydd y flwyddyn i’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, am yr ail flwyddyn yn olynol.