Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad ar ymgynghoriad a gynhaliodd ar y Safonau y bydd yn rhaid i gyrff gydymffurfio â nhw mewn perthynas â’r Gymraeg.

Mae Meri Huws wedi canmol y “lefel uchel o ymateb” a dderbyniodd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Mai a 11 Awst eleni.

Derbyniodd 261 o ymatebion, ac roedd mwy wedi ymateb yn Saesneg nag yn Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws fod tua 60% o’r ymatebion yn gefnogol neu’n gefnogol iawn i’r Safonau newydd, a fydd yn disodli cynlluniau iaith. Bydd dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio â nhw neu fe allan nhw gael dirwy o hyd at £5,000.

Mae’r safonau newydd wedi eu dosbarthu i mewn i bum maes sef cyflenwi gwasanaethau, llunio, polisi, gweithredu, hybu a chadw cofnodion.

‘Diffyg uchelgais’ medd Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod y Safonau yn ddefnyddiol ond yn “dangos diffyg uchelgais” i gryfhau’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

“Byddem wedi hoffi gweld safonau gweithredu a hybu llawer cryfach na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y dogfennau hyn,” meddai Siân Howys, llefarydd y Gymdeithas ar hawliau.

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi annog Llywodraethau Cymru a Phrydain i beidio oedi cyn gweithredu safonau’r Comisiynydd.

“Mae’n hen bryd i bobl ddechrau gweld y gwahaniaeth a’r gwasanaethau gwell dylai ddod gyda deddfwriaeth newydd,” meddai Siân Howys.

“Wedi’r cwbl, cafodd y Mesur ei basio dwy flynedd yn ôl. ‘Dyn ni wedi cael pedair blynedd o ymgynghori ar y ddeddfwriaeth a’r dyletswyddau hyn, a chafwyd cannoedd o ymatebion.

“Nid oes cyfiawnhad dros ragor o oedi felly.”

Dywed Cymdeithas yr Iaith mai “profiad dydd i ddydd pobol Cymru” fydd yn dangos pa mor effeithiol yw’r Safonau wrth sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg.

Bydd adroddiad y Comisiynydd yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac yn benodol i Leighton Andrews, sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.