Anna Ryder Richardson
Mae parc bywyd gwyllt yn Sir Benfro sy’n eiddo i gyn-cyflwynydd teledu a’i gŵr wedi cael dirwy o £70,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Cafodd Colin MacDougall, sy’n cyd-berchen ar Manor House Wildlife Park gyda’i wraig y gyflwynwraig Anna Ryder Richardson, ddirwy hefyd o £4,000 ar ôl pledio’n euog i ddwy drosedd o dorri Deddf Iechyd a Diogelwch 1974.

Bydd yn rhaid i’r cwmni dalu £37,000 o gostau cyfreithiol.

Cafodd cyhuddiadau eu dwyn yn erbyn y parc ar ôl i fachgen tair oed, Gruff Davies-Hughes, gael ei anafu yn ddifrifol yn 2010 pan ddisgynnodd cangen ar ei ben. Cafodd mam Gruff Davies-Hughes, Emma, ei hanafu hefyd yn y digwyddiad.

Cafodd yr achos ei ddwyn gan Gyngor Sir Benfro a dywedodd yr erlynydd Simon Morgan nad oedd y cyhuddiadau yn ymwneud yn uniongyrchol gyda’r digwyddiad a anafodd y Gruff Davies-Hughes a’i fam, ac nad oedd sicrwydd y byddai’r ddamwain wedi ei hosgoi hyd yn oed pe bai trefn ddiogelwch gwell yn y parc.