Jill Evans
Mae Aelod Senedd Ewropeaidd wedi rhybuddio y bydd economi Cymru yn cael ei heffeithio  os caiff cyllid yr Undeb Ewropeaidd ei dorri.

Yn ôl Jill Evans o Blaid Cymru mae Cymru’n derbyn mwy o arian gan yr Undeb Ewropeaidd nag mae’n ei gyfrannu, ac mae’n rhybuddio rhag cwtogi ar gyllid Brwsel.

Mae uwchgynhadledd i drafod cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal ym Mrwsel heddiw, a David Cameron yn awyddus i weld gwariant yr UE aros fel y mae, neu ostwng hyd yn oed.

Yn ôl ymchwil gafodd ei gyhoeddi gan Jill Evans mae pob person yn yr UE yn cyfrannu €195.82 y flwyddyn ar gyfartaledd tuag at yr UE, tra bod Cymru’n derbyn gwerth €243.98 y person yn ôl.

“Bydd yr arian yma yn cael ei beryglu os yw cyllid yr UE yn cael ei dorri,” meddai Jill Evans.

“Yn ystod yr adegau economaidd anodd hyn mae angen arian Ewropeaidd arnom yn fwy nag erioed.

“Mae’n rhyfeddol bod y Torïaid a Llafur yn awyddus i dorri cyllid yr UE ac, o ganlyniad, torri nawdd i rai o’n cymunedau tlotaf, ” meddai Jill Evans.

Dywed yr AS fod ffermwyr, pysgotwyr, myfyrwyr ac ardal strwythurol gorllewin Cymru a’r Cymoedd oll yn elwa o gronfeydd Ewropeaidd.

“Does neb erioed wedi edrych ar y darlun cyfan i Gymru yn nhermau’r ariannu cyfannol bydd y wlad yn ei gael o’r UE, ” meddai.