Maes awyr Caerdydd
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi dweud eu bod nhw’n croesawu argymhellion Silk ac yn dweud fod angen “gweithredu er mwyn cefnogi arwahanrwydd Cymru a’i hapêl fel cyrchfan hedfan.”

Mewn datganiad dywedodd y maes awyr eu bod nhw hefyd yn gefnogol i ddatganoli pwerau dros dollau teithwyr awyr ar hediadau pell.

“Mae’r gallu i reoli cyfraddau’r tollau teithwyr yn un arf ar gyfer gwella gwasanaethau teithwyr hedfan a chynyddu niferoedd y teithwyr.”

“Byddwn yn rhannu’r newyddion ardderchog yma gyda’r cwmnïau hedfan rydym mewn trafodaethau â nhw.”

Mae Gogledd Iwerddon wedi medru gostwng trethi teithwyr awyr ers cael y pŵer i wneud hynny yn 2011.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp tasg er mwyn mynd i’r afael gyda’r gostyngiad yn niferoedd y teithwyr o faes awyr Caerdydd.

Yn ystod chwe mis cyntaf eleni roedd gostyngiad o 118,000 yn  nifer y teithwyr a ddefnyddiodd y maes awyr  o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, ond daeth newydd da dros y misoedd diwethaf ar ôl i gwmni Vueling ychwanegu pedwar cyrchfan hedfan newydd rhwng Caerdydd a Sbaen.