Byddai datganoli pwerau trethu a benthyca i Gymru yn rhoi grym i etholwyr  a Llywodraeth Cymru, yn cynyddu cyfrifoldeb ac yn cryfhau Cymru, a thrwy hynny, yn cryfhau’r Deyrnas Unedig, yn ôl Comisiwn Silk.

Mae adroddiad y comisiwn annibynnol, gafodd ei sefydlu gan y cyn Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, wedi cael ei gyhoeddi bore ma.

Mae’r adroddiad yn gwneud 33 o argymhellion a fydd, os ydyn nhw’n cael eu rhoi ar waith, yn cynyddu atebolrwydd ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gwneud y Cynulliad yn gyfrifol am bennu cyfran o’i gyllideb ei hun am y tro cyntaf.

Argymhellion

Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i wneud penderfyniadau ynghylch trethi mewn meysydd polisi sydd wedi’u datganoli, gan ddechrau â’r trethi sy’n rhoi’r incwm lleiaf.

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • datganoli treth tirlenwi, treth stamp ar dir, a’r ardoll agregau, a dylid datblygu ardrethi busnes yn llawn;
  • datganoli Toll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau awyr pell i gychwyn, gan ddatganoli’r doll yn llawn yn y dyfodol, o       bosibl.
  • dylai Llywodraeth Cymru gael rhagor o bwerau i gyflwyno ardollau sy’n cyd-fynd a blaenoriaethau Cymru.

Er mwyn i Lywodraeth Cymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gyllido swm sylweddol o’r arian mae’n ei wario, gan wella atebolrwydd ariannol yn sylweddol, mae’r Comisiwn yn argymell y canlynol:

  • dylai’r cyfrifoldeb dros dreth incwm gael ei rannu rhwng Bae Caerdydd a San Steffan, a dylai Llywodraeth Cymru allu amrywio cyfraddau treth incwm o fewn strwythur treth incwm y DU;
  • dylai trosglwyddo pwerau dros y dreth incwm fod yn amodol ar ddatrys materion ariannu teg mewn ffordd y cytunir arni gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU;
  • dylai datganoli’r dreth incwm fod yn amodol ar refferendwm, a dylid cynnwys darpariaethau ar gyfer y refferendwm mewn Bil Cymru, y dylid ei gyflwyno yn y Senedd hon, er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad;
  • ni ddylid datganoli treth gorfforaeth oni bai ei bod yn cael ei datganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, dylai Cymru allu cael mwy na’i chyfran ar sail poblogaeth o Barthau Menter, gyda lwfansau cyfalaf uwch os bydd Llywodraeth Cymru’n talu’r gost gynyddol.

‘Pwerau benthyca’

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion sy’n ymwneud â phwerau benthyca, gan gynnwys:

  • pŵer i fenthyca i gefnogi buddsoddiad mwy mewn seilwaith;
  • pŵer i fenthyca i gyllido gwariant cyfredol er mwyn rheoli gwell gallu i amrywio refeniw treth;
  • dylai pwerau benthyca fod yn amodol ar gyfyngiadau call y cytunir arnynt gyda Thrysorlys EM.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell gwelliannau eraill o ran atebolrwydd ariannol, gan gynnwys cyhoeddi rhagor o wybodaeth am gyllid cyhoeddus Cymru, datblygu swyddogaeth Trysorlys Llywodraeth Cymru a chaniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei brosesau craffu ar gyllidebau ei hun.

Byddai’r pecyn o argymhellion yn gwneud yn siŵr y byddai oddeutu chwarter y gwariant datganoledig yng Nghymru yn cael ei bennu gan drethi sy’n cael eu penderfynu yng Nghymru (gan gynnwys y Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes).

‘Arwyddocal a hanesyddol’

Dywedodd Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn:  “Gweithiodd y Comisiwn yn agos fel tîm  dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym wedi cytuno ar argymhellion a fyddai, yn ein barn ni, o fudd i Gymru, ac a fyddai’n cryfhau democratiaeth ac economi’r wlad.

“Mae’r hyn rydym yn ei argymell yn arwyddocaol ac yn hanesyddol.  Bydd yn rhoi i Gymru ei system trethu a benthyca ei hun am y tro cyntaf.”

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:  “Cefnogir y Comisiwn gan bob un o’r pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad, ac mae cyhoeddi’r adroddiad heddiw yn dangos pa mor bwysig yw gweithio trawsbleidiol.

“Byddaf yn awr yn ystyried argymhellion yr adroddiad, yn eu trafod gyda chydweithwyr priodol ar draws y Llywodraeth ac yn ymateb yn ffurfiol maes o law.”

Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:  “Edrychaf ymlaen at adolygu argymhellion y Comisiwn a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r holl bleidiau yng Nghynulliad Cymru, i sicrhau canlyniad uchelgeisiol sy’n bodloni anghenion pobl Cymru i’r graddau gorau posibl.”