Anna Ryder Richardson
Mae gŵr Anna Ryder Richardson, perchennog parc bywyd gwyllt, wedi cyfaddef iddo dorri rheolau iechyd a diogelwch ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn eu herbyn yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd y cyhuddiadau yn erbyn Anna Ryder Richardson eu gollwng.
Roedd Ryder Richardson a’i gwr Colin MacDougall, sy’n berchen ar barc Manor House ger Dinbych y Pysgod, wedi gwadu dau gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch ar ôl i gangen o goeden gwympo mewn gwyntoedd cryfion ar ben bachgen tair oed a’i fam a oedd ar ymweliad â’r parc ym mis Awst 2010.
Mae Colin MacDougall wedi cyfaddef pedwar cyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch. Mae ei gyfaddefiad yn golygu y gall y bachgen a’i fam wneud cais am iawndal.
Roedd MacDougall hefyd wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch ar ran eu cwmni Manor House Wildlife Park Cyf.
Fe fydd MacDougall yn cael ei ddefrydu’n ddiweddarach.
Daeth Ryder Richardson, sy’n fam i ddau o blant, i amlygrwydd am gymryd rhan yn y rhaglen BBC Changing Rooms gyda Laurence Llewelyn-Bowen. Fe roddodd y gorau i’w gyrfa deledu yn 2008 a phrynu safle’r parc 52 acer yn Sir Benfro gyda’i gŵr.