Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi dweud bod gan Lywodraeth Prydain gwestiynau difrifol i’w hateb, yn dilyn ymgais gan y Prif Weinidog, David Cameron i wfftio beirniadaeth am y niferoedd isel sy’n debygol o bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu.

Dywedodd David Cameron heddiw bod cyflwyno etholiadau o’r newydd “bob amser yn creu anawsterau”, ond mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol  wedi cyhuddo’r Llywodraeth o droi’r etholiad yn “ffars”.

Gallai’r ganran sy’n pleidleisio fod mor isel â 18%.

Yr wythnos hon, cafodd gwerth £350,000 o bapurau pleidleisio uniaith Saesneg eu difa.

Heddiw yw’r diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio, ac mae gwybodaeth am yr ymgeiswyr wedi dechrau cyrraedd etholwyr.

Ond mae’n ymddangos nad oes fawr o ddiddordeb gan bleidleiswyr ar hyn o bryd, wrth i’r ymgyrchu ddechrau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Steve Brooks: “Gallai gwneud un camgymeriad yn yr etholiad hwn fod wedi cael ei ystyried yn anffodus. Mae gwneud oddeutu dwsin o gamgymeriadau mawr, fel y mae’r Swyddfa Gartref wedi eu gwneud hyd yn hyn, yn edrych yn ddifater.”

Dywedodd fod y camgymeriadau niferus yn cynnwys amseru’r etholiadau, blaendaliadau sylweddol sydd wedi atal rhai darpar-ymgeiswyr rhag sefyll, a phapurau pleidleisio yn cael eu difa.

Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth y DU wedi troi polisi blaenllaw yn ffars.”

“Nid dim ond ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Mae yna rai newydd yno hefyd… Mae yna ddigon o gwestiynau mawr y bydd angen i Lywodraeth y DU eu hateb ar ôl yr etholiadau.”