Wylfa
Fe fydd swyddogion o gwmni Hitachi yn ymweld ag Ynys Môn heddiw yn dilyn y cyhoeddiad ddoe eu bod am adeiladu gorsaf niwclear newydd ar yr ynys.

Fe gyhoeddodd Hitachi eu bod nhw am brynu cynllun Horizon a bwrw ymlaen gyda datblygu’r atomfa yn Wylfa ac un arall yn Oldbury, Sir Gaerloyw.

Yn ôl Llywodraeth San Steffan, fe fydd y cynllun gwerth £700 miliwn yn creu tua 6,000 o swyddi adeiladu yn ardal Amlwch a 1,000 o swyddi parhaol.

Fe fydd swyddogion Hitachi yn cwrdd â grwpiau lleol a gwleidyddion yn Llangefni heddiw.

Dywedodd Carwyn Jones bod hyn yn  “newyddion da iawn i Gymru a’r DU” ac y gallai helpu i sicrhau cyflenwad ynni yn y dyfodol.

“Fe fyddwn yn parhau i gydweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Hitachi er mwyn sicrhau’r buddsoddiad yma i Gymru,” meddai.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, fe ddylai’r atomfa yn Wylfa fod yn barod erbyn tua 2022, yn debyg i’r cynllun cynharach. Fe ddywedodd hefyd bod y cynllun yn un diogel.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn bod hyn yn “gam mawr ymlaen” ac y byddai’n hwb enfawr i’r economi leol.

Ond mae grwpiau amgylcheddol wedi mynegi pryder am y cynlluniau yn enwedig ar ôl darganfod bod Hitachi wedi cynllunio’r atomfa yn Fukushima yn Japan, a gafodd ei ddifrodi yn sgil daeargryn yn 2011.

Fe fydd atomfa Wylfa, sydd wedi bod yn cynhyrchu trydan ers 1971, yn parhau i gyflenwi ynni hyd at fis Medi 2014.