Wylfa, Ynys Mon
Mae llefarydd Materion Cymreig y Blaid Lafur, Owen Smith wedi beirniadu diffyg ymateb gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood i’r newyddion fod cwmni Hitachi wedi mabwysiadu’r cynllun i godi gorsafoedd niwclear ar safle Wylfa B.
Dywedodd Owen Smith: “Mae tawelwch Leanne Wood yn hyn o beth heddiw yn dweud y cyfan. Rydyn ni’n gwybod fod Plaid yn gwrthwynebu ynni niwclear, ac rydym yn gwybod bod eu harweinydd yn erbyn ynni niwclear.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw bod cyflogaeth wedi’i sicrhau i 6,000 o bobl a bod sicrwydd gwaith yn y tymor hir wedi’i ddarparu, yn newyddion gwych i Ynys Môn ac i Ogledd Cymru.
“Mae Leanne Wood wedi troi ei chefn ar deuluoedd sy’n gweithio’n galed yn Ynys Môn. Mae’n amlwg nad yw ei ‘gweledigaeth economaidd’ i Gymru yn ymestyn cyn belled ag Ynys Môn.”
‘Croesawu’r newyddion’
Dywedodd Llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae newyddion heddiw ynghylch Hitachi a Wylfa wedi cael ei groesawu gan gynrychiolwyr lleol Plaid Cymru a bydd y blaid, ar lefel lleol a chenedlaethol, yn parhau i bwyso am gyfleoedd hyfforddi a chreu swyddi a fydd yn elwa’r economi a phobl leol.
“Er hyn, mae’n well gan y blaid gynllun ynni i Gymru sydd ddim yn cynnwys niwclear ac rydym yn parhau i wrthwynebu safleoedd niwclear newydd.
“Yn yr hirdymor, rydym eisiau gweld ein ynni yn cael ei gynhyrchu gan y ffynonellau adnewyddol sydd gennym ddigonedd ohonynt yn naturiol.
“Rydym eisiau gweld y penderfyniadau dros y materion hyn wedi cael eu datganoli i Gymru.”
‘Creu swyddi’
Fe gyhoeddodd Hitachi heddiw eu bod nhw am brynu cynllun Horizon a bwrw ymlaen gyda datblygu’r atomfeydd.
Dywedodd Carwyn Jones bod hyn yn “newyddion da iawn i Gymru a’r DU” ac y gallai greu miloedd o swyddi newydd a helpu i sicrhau cyflenwad ynni yn y dyfodol.
“Fe fyddwn yn parhau i gydweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Hitachi er mwyn sicrhau’r buddsoddiad yma i Gymru,” meddai.
Ond mae grwpiau amgylcheddol wedi mynegi pryder am y cynlluniau yn enwedig ar ôl darganfod bod Hitachi wedi cynllunio’r atomfa yn Fukushima yn Japan, a gafodd ei ddifrodi yn sgil daeargryn yn 2011.
Yn ôl Llywodraeth San Steffan, fe fydd y cynllun gwerth £700 miliwn yn creu tua 6,000 o swyddi adeiladu yn ardal Amlwch a 1,000 o swyddi parhaol.