Syr Peter Morrison
Mae cyn weinidog Ceidwadol yn y Swyddfa Gymreig yn honni bod cyn ddirprwy gadeirydd y blaid Geidwadol a chyn ysgrifennydd seneddol Margaret Thatcher yn bedoffilydd ac yn ymwelydd cyson â chartrefi plant oedd yn destun ymchwiliad cyhoeddus i honiadau o gamdrin yn ystod y nawdegau.

Mae Rod Richards, sydd hefyd yn gyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, yn dweud yn y Mail on Sunday ei fod wedi gweld tystiolaeth yn cysylltu Syr Peter Morrison efo cartrefi Bryn Estyn a Bryn Alun oedd yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus i honiadau o gamdrin hyd at 650 o blant mewn 40 o gartrefi yn ystod y nawdegau.

Mae hefyd  wedi enwi aelod blaenllaw arall o’r blaid Geidwadol yn yr un modd ond dyw’r papur ddim wedi cyhoeddi enw hwnnw.

Dywed Mr Richards fod y ddau yn ymwelwyr cyson â chartrefi Bryn Estyn a Bryn Alun a gan fod Syr Peter Morrison yn aelod seneddol Caer, doedd ganddo ddim rheswm swyddogol i ymweld â’r cartrefi oedd mewn etholaeth arall.

Bu farw Syr Peter Morrison o gancr yn 51 oed yn 1995.

Fe wnaeth y cyn aelod seneddol Ceidwadol Edwina Currie honni yr wythnos diwethaf bod Syr Peter Morrison wedi cael rhyw efo bechgyn 16 oed pan oedd yr oedran cydsynio yn 21.

William Hague

Yn ôl y Mail on Sunday mae Mr Richards hefyd yn honni y dylai Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, William Hague fod wedi gweld yr un dystiolaeth ac a welodd ef.

Dywedodd llefarydd ar ran William Hague, sydd bellach yn Ysgrifennydd Tramor, nad oedd wedi dod ar draws unrhyw dystiolaeth yn cysylltu Syr Peter Morrison efo’r cartrefi.

William Hague sefydlodd Ymchwiliad Cyhoeddus Camdrin Plant yng Ngogledd Cymru yn 1996 ar ôl i lys gael pennaeth un o’r cartrefi, John Allen, yn euog o gamdrin plant.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod bod cylch o bedoffiliaid wedi bod yn gweithredu yn ardaloedd Caer a Wrecsam gan achosi ‘dioddefaint difrifol’ i blant yn y cartrefi yn ystod y 70au a’r 80au.

Mae Llafur wedi galw am ail edrych ar y dystiolaeth er mwyn sicrhau nad oedd y sefydliad gwleidyddol yn gyfrifol am gelu unrhyw beth.