Mae’r mudiad iaith Dyfodol a gynhaliodd ei gyfarfod cyffredinol cyntaf yn Aberystwyth ddoe wedi rhyddhau datganiad yn enwi’r deg cyfarwyddwr i’r mudiad fydd yn gweithredu fel pwyllgor gwaith.

Y deg sydd wedi cael eu hethol yw Heini Gruffudd, Simon Brooks, Elin Walker Jones, Elin Wyn, Eifion Lloyd Jones, Emyr Lewis, Meirion Llywelyn, Richard Wyn Jones, Huw Ll. Edwards ac Angharad Mair.

Heini Gruffudd fydd Cadeirydd y Bwrdd.  Bethan Jones Parry fydd Llywydd cyntaf y mudiad.

Cytunwyd hefyd y bydd Myrddin ap Dafydd, Cynog Dafis, Angharad Dafis a Robat Gruffudd yn aelodau craidd o’r mudiad.

“Ni fydd modd i’r mudiad newid ei amcan o weithredu er lles y Gymraeg heb gydsyniad yr aelodau craidd,” meddai’r datganiad.

Dywedodd un o’r deg, Elin Wyn, wrth Golwg 360 bore ’ma  y byddai’r  pwyllgor gwaith yn cwrdd yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod beth fydd blaenoriaethau’r mudiad o ran rhaglen waith.

“Fe gafwyd trafodaeth adeiladol yn y cyfarfod ddoe gyda nifer helaeth o aelodau yn cynnig syniadau parthed y meysydd hynny lle dylai’r mudiad ganolbwyntio ei egni. Bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl syniadau hyn wrth fynd ati i lunio rhaglen waith,” meddai.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn disgrifio’i hun fel “grŵp pwyso annibynnol, amhleidiol fydd yn hyrwyddo buddiannau’r Gymraeg ym mhob maes posib” a “chorff proffesiynol yn gweithredu trwy ddulliau cyfansoddiadol â swyddogion yn gweithio er lles y Gymraeg yn nrysau’r Cynulliad.”