Maes awyr Caerdydd
Ar ôl cyfres o newyddion gwael am niferoedd teithwyr yn gostwng mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi fod cwmni Lufthansa am agor llwybr newydd o’r maes awyr.
Bydd y cwmni o’r Almaen yn dechrau hedfan o Gaerdydd i Düsseldorf ar 4 Mai 2013, ac mae Prif Weinidog Cymru, sydd wedi sefydlu grŵp er mwyn ceisio adfywio’r maes awyr, wedi croesawu’r newydd.
“Mae rhanbarth Düsseldorf ymhlith y mwyaf cyfoethog yn Ewrop a bydd y gwasanaeth yn agor Cymru fel cyrchfan twristaidd i fwy nag ugain miliwn o Almaenwyr sy’n byw o fewn awr i’r maes awyr,” meddai Carwyn Jones.
“Bydd y llwybr hefyd yn rhoi mynediad i deithwyr i rwydwaith fyd-eang Lufthansa,” meddai.
Mae’r maes awyr wedi dod dan y lach yn ddiweddar, ac yn ystod chwe mis cyntaf eleni roedd gostyngiad o 118,000 yn nifer y teithwyr a ddefnyddiodd y maes awyr o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Fis diwethaf cyhoeddodd cwmni hedfan Helvetic o’r Swistir na fyddan nhw’n hedfan o Faes Awyr Caerdydd dros y gaeaf ar sail niferoedd siomedig y llynedd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol y maes awyr, Steve Hodgetts, ei fod am weld llwybr newydd Lufthansa yn bod yn gatalydd ar gyfer dod â mwy o ymwelwyr i Gymru.