Mae’r Llywodraeth wedi gofyn i gwmni Virgin i barhau i gynnal y gwasanaeth West Coast, sy’n cynnwys trenau rhwng Llundain a gogledd Cymru, am rai misoedd eto.

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi awgrymu’r cytundeb dros dro yn dilyn tro pedol yn gynharach y mis hwn.

Mae disgwyl i gytundeb Virgin ddod i ben ar 9 Rhagfyr ond mae’r Adran Drafnidiaeth yn rhagweld y gall y broses o dendro am y gwasanaeth gymryd rhwng 9 a 13 mis.

Cafodd tri o weision sifil eu gwahardd o’u gwaith yn dilyn camgymeriadau yn y broses dendro.