Ar ôl i Lywydd y Cynulliad ddweud nad oes digon o sylw yn cael ei roi i’r hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad, mae Plaid Cymru wedi ailadrodd eu dymuniad nhw i roi statws ‘asedau cymunedol’ i bapurau newydd lleol.

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, y byddai rhoi statws ased cymunedol i bapurau newydd lleol sydd dan fygythiad yn golygu na all perchnogion gau papurau newydd “dros nos.”

“Yn llawer rhy aml, gwelir newyddion Seisnig fel newyddion Cymreig. Yn sgil hyn mae’n hanfodol ein bod yn amddiffyn y cyfryngau sydd eisoes yn darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n bwysig a pherthnasol i bobol Cymru,” meddai Jonathan Edwards.

“Mae papurau newydd Cymreig dan fygythiad cynyddol fel rhan o newid ehangach mewn arferion darllenwyr, ac weithiau, rheolaeth gwael.

“Creodd y Mesur Lleoliaeth ‘asedau cymunedol’ na all gael eu gwerthu heb ymgynghoriad.

“Os y gellir cynnwys papurau lleol yn y diffiniad yna byddai’n cydnabod eu pwysigrwydd lleol ac atal y perchennog rhag cau’r papur dros nos a rhoi amser i berchennog newydd i gymryd yr awenau, o bosib yn cynnwys rheolaeth gan y gymuned leol.

“Gan fod y grymoedd dros hyn yn San Steffan, rwyf wedi pwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ehangu categori ‘asedau cymunedol’ i gynnwys papurau newydd lleol a chaniatau i Lywodraeth Cymru fedru gwneud hyn i arbed unrhyw bapurau newydd yng Nghymru rhag dod dan fygythiad.

“Mae gan Gymru ei straeon ei hun i’w hadrodd ac felly mae arni angen ei llais ei hun.”

Ym mis Mai rhybuddiodd prif ohebydd y Western Mail am dranc y wasg Gymreig.

Dywedodd Martin Shipton fod perchnogion y papurau newydd yn rhoi’r pwyslais ar wneud elw tymor-byr ar draul newyddiadura ac enw da papurau a chynigiodd ef hefyd fod papurau newydd yn cael eu datgan yn asedau cymunedol a chenedlaethol, ac y dylai Llywodraeth Cymru ymddwyn fel ‘brocer’ os oes bygythiad i ddyfodol papur.