Rosemary Butler
Does dim digon o sylw yn cael ei roi i’r hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad medd Llywydd y sefydliad, Rosemary Butler.

Mae disgwyl i’r Aelod Cynulliad ddweud mewn araith heno bod yna “ddiffyg democratiaeth” ar waith a bod angen gofyn pwy yn y dyfodol fydd yn craffu ar yr hyn sydd yn digwydd ym Mae Caerdydd.

Fe fydd hi’n dweud bod yna broblemau yn dal i fodoli wrth roi sylw i straeon sydd wedi eu datganoli ac yn gofyn faint mae’r cyhoedd yn gwybod am y gwahaniaethau sy’n bodoli rhwng polisïau’r Cynulliad a San Steffan.

Mae Rosemary Butler am gynnal tair sesiwn yn ystod y misoedd nesaf er mwyn ceisio taclo’r “diffyg mewn democratiaeth” yng Nghymru.

Bydd y sesiwn gyntaf yn edrych ar y cyfryngau Prydeinig, yr ail sesiwn yn edrych ar rôl y papurau newydd yng Nghymru, a’r drydedd yn edrych ar wefannau a gorsafoedd teledu lleol gan ofyn ai’r rhain yw’r ateb i’r diffyg ymwybyddiaeth.