Peter Black
Mae Aelod Cynulliad De Orllewin Cymru, Peter Black wedi beirniadu erthygl ym mhapur newydd y Guardian, sy’n cyfeirio at agweddau negyddol sy’n cael eu meithrin gan y Gymraeg a’i siaradwyr.

Yn yr erthygl gan Simon Jenkins, mae’n dadlau bod y Gymraeg yn gryf yn bennaf am iddi gael ei gormesu gan y Saeson ers blynyddoedd lawer.

Rhybuddia fod perygl y gallai ddilyn trywydd yr iaith Gatalan drwy gymysgu ymreolaeth wleidyddol â hawliau ieithyddol.

Gallai hyn olygu, yn ôl y newyddiadurwr, fod y Cymry di-Gymraeg yn symud allan o’r wlad er mwyn chwilio am swyddi a bod eu gorfodi allan yn mynd yn groes i hawliau dynol.

Dywedodd Peter Black ar ei flog: “Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw swyddi blaenllaw sy’n gofyn am y Gymraeg fel un o’r hanfodion ac nad oes modd llenwi’r swydd honno o’r herwydd.

“Dydw i ddim yn ymwybodol chwaith fod y Gymraeg yn ffactor mewn unrhyw brinder staff cymwys yn y Gwasanaeth Iechyd na’r byd addysg ac eithrio yn y sector Gymraeg lle mae gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gymryd yn ganiataol.

“Efallai y gallai Mr. Jenkins roi ambell enghraifft. Gwell fyth, efallai y dylai ddod i Gymru i weld y sefyllfa drosto fe’i hun.

“Dydy creu’r myth hwn o gysur ei ddesg yn Llundain ddim yn helpu nac yn glyfar.”