Prifysgol Aberystwyth
Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn protestio heddiw yn erbyn toriadau i gyllideb y brifysgol.

Yn ôl y myfyrwyr fe fydd y toriadau yn effeithio ar ansawdd yr addysg y mae’r brifysgol yn ei ddarparu.

Maen nhw wedi trefnu cyfarfod â phenaethiaid y Brifysgol tua 2pm heddiw er mwyn trafod y gwasanaethau fydd yn cael eu heffeithio.

“Y nod yw anfon neges glir i Uwch Dîm Reoli a Llywodraethwyr y Brifysgol nad ydyn ni eisiau gweld y brifysgol yn cael ei ddinistrio gan doriadau annoeth,” meddai llefarydd ar ran y myfyrwyr.

“Mae angen i ni amddiffyn Prifysgol Aberystwyth”.

Diffyg adnoddau

Mae arweinwyr y myfyrwyr yn dweud y bydd unrhyw ostyngiad mewn cyllid yn effeithio ar sawl agwedd o’u bywydau yn y Brifysgol.

Maen nhw’n dweud y bydd pob adran yn gweld toriadau dros y tair blynedd nesaf ac y bydd hynny’n effeithio ar “ansawdd yr addysg”.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y toriadau yn golygu na fydd cymaint o adnoddau ar gyfer cymdeithasau a thimoedd chwaraeon gwahanol.

Byddai  gostyngiadau mewn cyllid hefyd yn golygu na fyddai modd  parhau gyda rhai gwasanaethau gwirfoddol, medden nhw.

Maen nhw hefyd yn pryderu fod yna ddiffyg lle ar gyfer myfyrwyr yn Neuaddau’r Brifysgol a bod prinder tai fforddiadwy i’w rhentu yn y dref.

Ymateb UMCA

Dywedodd Rhiannon Wade, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg y brifysgol wrth Golwg360 bod Undeb y Brifysgol yn wynebu toriad o 7% yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Roedd hyn yn debygol o effeithio ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor, gan mai’r Undeb sy’n eu cyllido.

“Efallai y bydd y toriad hwn yn cael effaith ar faint o ddigwyddiadau fedrwn ni eu cynnal,” meddai Rhiannon Wade.

“Dw i’n pryderu a fydd modd cynnal y safon bresennol yn y Brifysgol os ydyn nhw’n wynebu toriadau.”

Mae’n gobeithio gweld “cannoedd” o fyfyrwyr y Brifysgol yn y brotest heddiw, ddechreuodd am 12pm y tu allan i Ganolfan y Celfyddydau.