Jamie Roberts
Mae yna adroddiadau bod canolwr Cymru, Jamie Roberts, wedi ei anafu yn dilyn ymosodiad mewn clwb nos yn oriau man y bore ddydd Sul.

Fe ddioddefodd chwaraewr y Gleision, sy’n 24 oed, anafiadau i’w wyneb yng nghlwb nos Tiger Tiger.

Roedd yn y clwb nos gyda’i gyd ganolwr rhyngwladol Jonathan Davies pan ddigwyddodd yr ymosodiad honedig.

Fe gafodd dyn 20 oed o ardal Caerau ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl i’r heddlu cael eu galw.  Does dim unrhyw awgrym bod Roberts na Davies wedi taro neb.

Mae’r dyn gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Fe fydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn enwi’r garfan i wynebu’r Eidal am 1.00pm heddiw.