Mae yna adroddiadau bod y gantores Aimée Duffy yn barod i ymddeol a symud yn ôl i fyw yn y wlad.

Mae’r ferch o Nefyn, sy’n bartner i fewnwr Cymru, Mike Phillips ers mis Medi 2009, wedi dweud ei bod hi’n barod i gael plant a byw bywyd tawel.

Daeth Duffy, sy’n 26 oed, i sylw’r cyhoedd yng Nghymru wrth ymddangos ar raglen Waw Ffactor S4C yn 2003.

Roedd ei albwm cyntaf, Rockferry, yn llwyddiant mawr pan gafodd ei ryddhau yn 2008 ond roedd gwerthiant ei halbwm diweddaraf, Endlessly, yn siomedig.

Gwerthodd ei sengl ddiweddaraf Well, Well, Well lai nag 4,000 o gopïau pan gafodd ei ryddhau dros y Nadolig. Gwerthodd ei sengl gyntaf Mercy tua 500,000 o gopïau.