Wylfa, Ynys Mon
Mae consortiwm o Ffrainc a Tsieina wedi tynnu allan o’r ras i wneud cais am gynllun niwclear Horizon, yn ôl adroddiadau bore ma.
Roedd disgwyl i gwmni Areva o Ffrainc a Chorfforaeth Ynni Niwclear Guangdong o Tsieina wneud cais am Horizon, ond mae’n debyg na chafodd y cais ei gyflwyno cyn y dyddiad cau ddydd Gwener, yn ôl adroddiadau yn y Daily Telegraph.
Mae Horizon yn berchen dau safle i godi atomfeydd niwclear, gan gynnwys Wylfa yn Ynys Môn ac Oldbury yn Sir Gaerloyw.
Mae Areva wedi gwrthod cadarnhau’r adroddiadau.
Hitachi a Westinghouse Electric, un o gwmnïau Toshiba, yw’r ceffylau blaen bellach i gystadlu am Horizon. Cafodd Horizon ei roi ar werth ym mis Mawrth ar ol i’w berchnogion RWE ac Eon o’r Almaen benderfynu rhoi’r gorau i’w cynlluniau i godi atomfeydd yn y DU yn sgil cyflafan Fukushima yn Japan.
Mae’r penderfyniad yn ergyd i ymdrechion y Llywodraeth i hybu’r diwydiant ynni niwclear ym Mhrydain.