Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi pwy sydd ar fwrdd newydd i drafod adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.
Bydd y grŵp yn trafod sut mae gwella’r ddarpariaeth i ddysgwyr a datblygu eu sgiliau iaith nhw. Bydd hefyd yn trafod hyfforddiant y tiwtoriaid, a ph’un a yw’r cymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr yn addas.
Dr Haydn Edwards, cyn-Bennaeth Coleg Menai, yw Cadeirydd y grŵp, a dyma’r aelodau eraill:
Gareth Jones, cyn-Gyfarwyddwr Addysg Ceredigion.
Ashok Ahir: ymgeisydd yn rownd derfynol dysgwr y flwyddyn a Phrif Weithredwr Mela-Media.
Rhian Huws Williams: Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru.
Merfyn Morgan, Cyn-bennaeth Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Strategaeth Cymwysterau Sector, Llywodraeth Cymru.
Dr Christine Jones, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dr Eleri Wyn Williams, Cyn-bennaeth Addysg a Dysgu, BBC Cymru.
Meic Raymant, Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg, Heddlu Gogledd Cymru
Bydd y Grŵp yn adrodd i Leighton Andrews erbyn mis Mehefin 2013 ac yn cynnig argymhellion ar y ffordd ymlaen i Gymraeg i Oedolion.