Mae Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin wedi beirniadu’r Fyddin am eu bod nhw’n targedu plant drwy hysbysebion ac ymweliadau ag ysgolion.

Rwan mae’r Cyfundeb sy’n brolio 3,000 o aelodau capeli lleoli yn  bwriadu annog ysgolion i wrthod mynediad i’r Fyddin, gan eu bod nhw’n pryderu mai darlun o ochr bositif yn unig sy’n cael ei gyfleu o waith y lluoedd arfog.

Byddan nhw hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i newid y gyfraith recriwtio ar gyfer plant 16 oed.

Maen nhw hefyd wedi mynegi pryder bod S4C yn hyrwyddo gweithgarwch y lluoedd arfog drwy ddangos hysbysebion recriwtio ar adegau pan fydd plant yn gwylio rhaglenni.

Dywedodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor ar ran yr Annibynwyr: “Dyma’r oedran lle mae pobl ifanc yn dod i benderfyniadau ac maen nhw’n cael eu dylanwadu.

“Dydyn nhw ddim yn clywed yr ochr arall, sef bod milwyr yn cael eu lladd, er enghraifft.

“Mae’n bwysig pwysleisio mai gwladwriaeth Prydain yw’r unig wladwriaeth yn Ewrop sy’n caniatáu recriwtio pobl o’r oedran yma.”

Mae’r grŵp yn credu bod gan S4C ran bwysig i’w chwarae yn y broses, a bod cyfrifoldeb arnyn nhw i addysgu plant am beryglon y lluoedd arfog.

Ychwanegodd Guto Prys ap Gwynfor: “Does dim sôn am ladd yn yr hysbysebion o gwbl. Dim ond un ochr maen nhw’n ei chael.”

Yn ôl ystadegau’r Annibynwyr, mae bron i 9% o bobl ifanc 16-24 oed sy’n ymuno â Byddin Prydain yn dod o Gymru.

5% yw’r ffigwr ar gyfer ardaloedd tebyg yng ngweddill Prydain.

Mae Guto Prys ap Gwynfor yn credu mai sefyllfa’r economi sydd i gyfrif am y nifer cymharol uchel o Gymry ifanc sy’n ymaelodi â’r fyddin.

Hefyd mae’n cyhuddo’r Fyddin o fanteisio ar sefyllfa economaidd dlodaidd Cymru i gynyddu eu hymdrechion recriwtio.

“Mae’r fyddin yn ddeniadol i bobl sy’n ansicr am eu dyfodol. Mae’r fyddin yn targedu pobl yn yr ardaloedd sy’n dioddef waethaf.”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r fyddin am ymateb.