Gareth Roberts
Mae tlws ralio yn cael ei ail-enwi er cof am gyd-yrrwr rali ifanc o Gaerfyrddin fu farw mewn damwain yn yr Eidal.

Cafodd Gareth Roberts, oedd yn 24 oed, ei ladd mewn ras yn Sicilia ym mis Mehefin.

Roedd yn gyd-yrrwr i’r Gwyddel Craig Breen ar yr ynys Eidalaidd ar gyfer cystadleuaeth Targa Florio.

Bydd Rali Cymru GB yn cyflwyno Tlws Croeso Er Cof Am Gareth Roberts i’r tîm Cymreig uchaf yn y bencampwriaeth.

Enillodd Roberts yntau y Tlws Croeso yn 2008, pan oedd yn gyd-yrrwr Gwyndaf Evans.

Y llynedd, enillodd e gystadleuaeth Academi Pencampwriaeth Rali’r Byd gyda Craig Breen.

‘Dawnus’

Bydd Rali Cymru GB yn dechrau yn Llandudno heno ac yn gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Dywedodd prif weithredwr Rali Cymru GB, Andrew Coe: “Roedd Gareth yn gyd-yrrwr dawnus ac yn seren oedd yn datblygu’n gyflym ym myd ralio rhyngwladol. Roedd e bob amser yn barod i helpu, rhywbeth oedd yn arbennig o amlwg o weithio gyda fe i hyrwyddo Rali Cymru GB dros y blynyddoedd diwethaf.

“Roedd yn benderfyniad hawdd iawn i ail-enwi’r tlws yr oedd Gareth mor falch o’i ennill yn 2008.”