Pontio
Mae sylfaenwyr Opra Cymru yn bendant bod y Gymraeg yn cynnig ei hun yn gwbl naturiol i berfformio operâu.

“Mae’r Gymraeg yn hollol berffaith ar gyfer opera,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Opra Cymru, Patrick Young.

“Yn y Gymraeg, mae’r llafariaid yn glir a syml am ei bod hi’n iaith ffonetig. Mae cymaint o ddeuseiniau yn y Saesneg, gall llafariad newid ei sŵn hyd yn oed o fewn un gair ac felly mae’n anodd eu canu.”

Mae Macbeth, sydd ar daith ar hyn o bryd, yn cyfuno stori ddramatig Shakespeare gyda rhai o ddarnau cerddorol mwyaf cofiadwy a gwefreiddiol Verdi.

Bydd y daith wnaeth gychwyn ddechrau’r mis yn gorffen yn Pontio ganol mis yma.

Cafod yr opera ei chyfieithu gan Sioned Young, gwraig Patrick Young, ac fe wnaeth hi wrando fwy nag unwaith ar wahanol berfformiadau o’r opera yn ogystal â darllen y ddrama wreiddiol cyn bwrw ati i gyfieithu’r libreto.

“Roedd y rhythmau yn cynnig ieithwedd,” meddai, “a’r ieithwedd felly yn codi yn naturiol o’r gerddoriaeth.

“Mae’r gerddoriaeth yn cyfleu llawer iawn o’r stori ac emosiwn y stori, ac mae rhythm y geiriau Cymraeg yn llifo’n hollol naturiol efo’r gerddoriaeth.”

Aelod o gwmni Scottish Opera, Phil Gault sy’n canu’r brif rhan ac mae aelodau eraill y cast yn cynnwys y soprano, Eldrydd Cynan Jones a’r bariton, Huw Euron yn ei ran operatig cyntaf.

Myfyrwyr o golegau cerdd Caerdydd, Birmingham a Chaerfyrddin wedyn sy’n ffurfio’r côr o chwech.

Macbeth, Neuadd Powis 7.30pm nos Sadwrn 22 Medi