Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhybuddio y bydd papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu yn uniaith Saesneg yng Nghymru, os na fydd San Steffan yn gweithredu ar frys.

Mewn taflen friffio mae’r Comisiwn Etholiadol yn dweud fod y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg yn dal heb gael ei gwblhau, ac mai dim ond 16 diwrnod gwaith sydd gan y senedd yn San Steffan er mwyn rhoi sêl bendith i’r Gorchymyn.

“Heb eglurder o ran amseriad a chynnwys y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg, ni fydd Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a’r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn gallu cwblhau eu manyleb argraffu a gofynion ar gyfer cardiau pleidleisio, datganiadau pleidleisio drwy’r post neu hysbysiadau gorsafoedd pleidleisio,” medd y Comisiwn Etholiadol.

“Yn absenoldeb y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg, bydd y papur pleidleisio a ddefnyddir yng Nghymru ar gyfer yr etholiadau hyn ond ar gael i bleidleiswyr yn Saesneg.”

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn galw ar Lywodraeth Prydain roi sicrwydd y bydd y papurau pleidleisio yn ddwyieithog. Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu yn digwydd ar 15 Tachwedd.

Bydd Llafur a’r Ceidwadwyr yn cynnig ymgeiswyr ar gyfer y pedair swydd yng Nghymru ond mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu dod â gwleidyddiaeth i mewn i waith yr heddlu ac wedi gwrthod cynnig ymgeiswyr.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud na fyddan nhw’n rhoi cefnogaeth ariannol i’w hymgeiswyr ond mae’r blaid eisoes wedi cyhoeddi nifer o ymgeiswyr yn Lloegr.