Menna Richards - dim olynydd eto
Mae’r BBC wedi methu â phenodi pennaeth newydd i ddilyn Menna Richards yn Llandaf.

Fe gyhoeddodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gorfforaeth bod y broses o ddewis Rheolwr i Gymru yn cael ei hymestyn ac y bydd y pennaeth rhaglenni Cymraeg, Keith Jones, yn cymryd y swydd dros dro.

Fe ddywedodd yntau wrth Radio Cymru nad oedd wedi cynnig am y swydd rhan amser ac nad oedd wedi bod yn rhan o’r broses ddewis ond fe fyddai’n dal y swydd tan i’r olynydd ddod.

Fe fydd yn cymryd yr awenau ar adeg allweddol wrth i’r BBC drafod gydag S4C ynglŷn â’r trefniadau cydweithio rhyngddyn nhw.

Cydweithio

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant yn Llundain, Jeremy Hunt, wedi gorchymyn bod rhaid i’r sianel fynd o dan adain y BBC, gan dderbyn y rhan fwya’ o’i harian o’r drwydded deledu.

Fe ddywedodd Keith Jones ei fod yn credu bod gan y Gorfforaeth “rôl bwysig” i’w chwarae yn nyfodol y sianel.

Mae’r methiant i benodi yn golygu fod dau brif ddarlledwr Cymru – BBC Cymru ac S4C – heb arweinwyr parhaol

Fe ymddeolodd Menna Richards o swydd y Rheolwr ddechrau’r mis.