Prifysgol Caerdydd
Mae prifysgol fwya’ Cymru yn dweud y bydd cynlluniau’r Llywodraeth i atal myfyrwyr tramor yn achosi niwed i Gymru gyfan.

Ac mae’r corff sy’n cynrychioli holl brifysgolion Cymru’n dweud y byddai’r cyfyngiadau ar fisas i fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn achosi “difrod diangen”.

Yn ôl Prifysgol Caerdydd, sydd bob blwyddyn yn denu miloedd o fyfyrwyr o’r tu allan i wledydd Prydain, fe fydd yr ymdrechion i gyfyngu ar fewnfudo’n rhwystro myfyrwyr dilys rhag astudio yn y Deyrnas Unedig.

‘Budd i bawb’

“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn ychwanegu’n fawr at awyrgylch dysgu amlddiwylliannol, amrywiaeth ac at  fywiogrwydd Prifysgol Caerdydd ac mae hynny o fudd i bawb gan gynnwys ein myfyrwyr cartref  ac i Gymru,” meddai llefarydd wrth Golwg 360.

Fe ddywedodd y Brifysgol y gallai cyfyngu nifer y myfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd gyfyngu ar allu’r Brifysgol  i recriwtio’r myfyrwyr rhyngwladol “mwyaf talentog” ac y gallai hefyd “danseilio’r enw da byd-eang sydd gan Gymru.”

“Y myfyrwyr hyn sy’n dychwelyd adref i ddod yn llysgenhadon ar gyfer y Brifysgol a Chymru ar draws y byd –  gan hybu twristiaeth yn y dyfodol, cysylltiadau busnes a phartneriaethau academaidd.”

Cyfarfod gyda Swyddfa Cymru

Yn y cyfamser, mae’r corff, Addysg Uwch Cymru, wedi cael cyfarfod gyda Swyddfa Cymru i brotestio yn erbyn y cynlluniau.

“Fe lwyddon ni i fynegi maint y difrod diangen y gallai’r cynigion hyn ei achosi,” meddai llefarydd. “Allai’r cynigion hyn ddim dod ar adeg waeth wrth i brifysgolion wynebu cyfyngiadau na fu eu tebyg ar arian cyhoeddus.”

Fe fyddai’r cyfyngiadau’n llesteirio gwaith prifysgolion Cymru’n denu myfyrwyr tramor, sydd eisoes yn talu ffioedd dysgu llawn.