Peter Hain
Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru yn addo talu am 500 yn rhagor o Swyddogion Cefnogi Cymunedol i’r heddlu os byddan nhw’n ennill etholiadau’r Cynulliad.

Mae’n un o bum addewid y mae’r blaid wedi ei wneud yn ei chynhadledd flynyddol yn Llandudno wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr etholiadau ymhen deufis a hanner.

Yn ôl y blaid fe fydd yr addewid yn costio rhwng £10 a 15 miliwn y flwyddyn ac maen nhw’n cymharu hynny â’r toriadau gwario sy’n wynebu heddluoedd Cymru ar hyn o bryd.

Maen nhw’n honni y bydd y rheiny’n golygu 1,600 yn llai o heddlu a staff yn y blynyddoedd nesa’, ond dydyn nhw ddim wedi dweud a fyddan nhw’n adfer y swyddi hynny hefyd.

‘Dewis arall’

“Mae Llafur yng Nghymru’n dangos bod dewis arall,” meddai eu llefarydd ar Gymru yn San Steffan, Peter Hain. “Bydd toriadau’r llywodraeth sy’n cael ei harwain gan y Torïaid yn gwneud Cymru’n lle llai diogel.

“Fe fydd ein haddewid ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau yng Nghymru.”

Fe fydd Peter Hain, Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r AC lleol Ann Jones yn mynd i’r Rhyl y prynhawn yma yn gofyn i bobol arwyddo deiseb yn erbyn toriadau i’r heddlu.