Jamie Bevan yn siarad ym Merthyr heddiw
Cafodd Jamie Bevan ffurflen uniaith Saesneg i’w harwyddo er mwyn gadael carchar Prescoed heddiw.

Gwrthododd yr ymgyrchydd iaith â’i harwyddo a chafodd wybod bod rhaid iddo ddychwelyd i’w gell. Cafodd ei ryddhau ymhen hanner awr gyda sylw yn cael ei roi ar ei ffurflen adael yn nodi ei fod wedi gwrthod â’i llofnodi.

Aeth i annerch rali i’w groesawu adre i Ferthyr Tudful. Mewn araith emosiynol yng Nghanolfan Gymraeg Soar dywedodd Jamie Bevan fod ei gyfnod dan glo wedi gwneud iddo sylweddoli fod brwydr yr iaith yn parhau a bod rhaid gweithredu nawr yn hytrach na disgwyl i bethau newid yn y dyfodol.

Un arall a siaradodd o flaen y dorf o 50 o bobol oedd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, Bethan Jenkins, a chanodd Heather Jones gân.

Treuliodd Jamie Bevan  17 diwrnod dan glo yng ngharchar Caerdydd a charchar agored Prescoed, ar ôl cael dedfryd o 35 diwrnod gan ynadon Merthyr Tudful am wrthod talu dirwy.

Yn ystod ei gyfnod yng ngharchar Caerdydd cwynodd Jamie Bevan am nad oedd ffurflenni dwyieithog ar gael i garcharorion, a honnodd ei fod wedi dioddef “rhegfeydd a bygythiadau agored” gan swyddogion y carchar am iddo fynnu gwasanaethau Cymraeg.