Dewi Sant mewn ffenest liw yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen (Klondek CCa 2.5)
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi cael yr hawl i gynnal dadl yn y Senedd yn Llundain i alw am droi Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc.

Fe fydd Mark Williams, AS Ceredigion, yn cael dadl fer yn Neuadd Westminster dan drefn sy’n rhoi cyfle i aelodau mainc gefn godi pynciau penodol.

Mae’n dweud y dylai Cymru gael yr un hawl â’r Alban i droi dydd ei nawddsant yn wyliau swyddogol ac mae’n dweud bod pob plaid yng Nghymru’n cytuno ar hynny.

“Mae Dydd Gŵyl Dewi’n arwyddocaol iawn o ran hanes a diwylliant yng Nghymru ac mae galwadau wedi bod ers blynyddoedd am gael gwyliau cyhoeddus,” meddai.

“Byddai Dydd Gŵyl Dewi’n gyfle gwych i ddangos ein diwylliant a’n treftadaeth ac fe allai fod yn hwb gwirioneddol i dwristiaeth.”

Y ddadl

Dyw pawb ddim yn gytûn – yn y gorffennol, mae rhai wedi dadlau y byddai cael gŵyl banc ar 1 Mawrth yn atal ysgolion rhag dathlu’r diwrnod a dysgu plant am Dewi ac mae rhai penaethiaid busnes yn anhapus gyda’r syniad o ddiwrnod gŵyl ychwanegol.

Fe fydd Mark Williams yn cael ei ddadl ar … 2 Mawrth.