Paul Flynn
Mae Aelod Seneddol o Gymru’n un o ddau sydd wedi gwrthod cefnogi adroddiad o blaid anrhydeddau.

Mae Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, wedi arwyddo adroddiad annibynnol sy’n condemnio’r system.

Er bod union gynnwys y ddau adroddiad yn gyfrinachol tan yr amser cyhoeddi yfory, mae’r AS Llafur wedi condemnio’r drefn o roi anrhydeddau fel teitlau marchogion, OBE ac yn y blaen.

“Mae’r system yn gwneud sefydliad o snobyddiaeth a braint ac yn cryfhau rhaniadau dosbarth,” meddai mewn blog am y pwnc.

“Mae’r bobol sydd eisoes yn rhy freintiedig oherwydd cyfoeth, llinach, enwogrwydd neu lwc yn cael gwobrau ymhellach trwy deitlau a medalau.”

Condemnio anrhydeddau gwleidyddol

Mae hefyd wedi condemnio’r bwriad i adfer anrhydeddau gwleidyddol – pan fydd ASau ac eraill yn derbyn gwobrau am eu gwasanaeth.

Yn ôl Paul Flynn, mae yna gysylltiad hefyd rhwng rhoi arian at bleidiau gwleidyddol a derbyn teitl marchog.

Fe fydd adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus – ac adroddiad lleiafrifol Paul Flynn – yn cael eu cyhoeddi yfory.