Y wefan yn cyhoeddi'r canslo
Mae noson ola’ un o brif wyliau cerddorol gogledd Cymru wedi gorfod cael ei chanslo ar y funud ola’ oherwydd y tywydd.

Fe gyhoeddodd trefnwyr Gŵyl Gobaith yn Llaneurgain bod rhagolygon y tywydd wedi eu gorfodi i roi’r gorau i bedwaredd noson yr ŵyl awyr agored.

Yn ôl llefarydd roedd y bygythiad o wyntoedd cryfion yn golygu nad oedd yn ddiogel parhau, gyda’r proffwydi tywydd yn addo storm fawr heno.

Roedd y band Steps, sy’n cynnwys dau o Gymru, i fod i ganu heno ac roedd y trefnwyr wedi bod yn cwrdd bob awr yn ystod y dydd i bwyso a mesur y rhagolygon cyn gwneud y penderfyniad ychydig cyn amser agor y gatiau am 4.30pm.

Hon yw’r bedwaredd ŵyl o’i bath i godi arian at elusen a’i chadeirydd yw Rhys Meirion a orffennodd daith gerdded i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru cyn canu yn y digwyddiad nos Wener.