Gwybedog brith - ond nid yr union un (Robert Wiliams, RSPB Cymru)
Mae aderyn prin yn Sir Ddinbych wedi torri record byd yn rhacs – a hynny trwy fyw bron ddwywaith yn hwy nag unrhyw un arall o’i fath.

Fe gyhoeddodd y gymdeithas warchod adar, yr RSPB, eu bod wedi dod o hyd i wybedog brith sy’n fwy nag 16 oed, a hynny yng Nglocaenog ger Rhuthun.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain, naw blwyddyn a saith diwrnod oedd y record cyn hynny.

Dim ond dwy flynedd yw hyd cyfartalog bywyd y gwybedog brith, meddai’r Ymddiriedolaeth, a hynny’n cyfateb i tuag 80 oed ymhlith pobol.

Os yw’r gymhariaeth oed yn dal, mae hynny’n golygu bod gwybedog brith Clocaenog dros ei 600 oed ym mlynyddoedd pobol a’i bod yn dal i ddodwy a magu cywion.

‘Anhygoel’

Mae’r dyn a roddodd fodrwy ar yr aderyn am y tro cynta’ – ger Llyn Efyrnwy ym mis Mehefin 1996 – hefyd wedi’i syfrdanu.

“Alla’ i ddim credu ei bod hi’n dal i fyn yn gryf ac yn dal i fagu, camp anhygoel i aderyn mor fach,” meddai Peter Bache.

Ymwelydd haf yw’r gwybedog brith â Chymru, gan dreulio’r gaeaf yng ngorllewin Affrica. Mae’n cael ei ystyried yn aderyn dan bwysau ar ôl i niferoedd gwympo yn ystod y blynyddoedd diwetha’.