Andrew R T Davies
Mae Andrew RT Davies yn dweud bod angen ail-enwi Cynulliad Cymru yn Senedd Cymru.

“Trwy bleidleisio dros bwerau deddfu llawn mae pobol Cymru wedi sicrhau mai senedd sydd gyda ni ac nid cynulliad,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd.

“Mae’n bryd nawr i wobrwyo eu ffydd nhw yn ein sefydliad ni a chydnabod y dylai lle sy’n gwneud deddfau gael y teitl senedd.

“Mae’n gwneud synnwyr, a byddai’r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad – fel y mae ar hyn o bryd – a Llywodraeth Cymru yn fwy eglur.

‘Lle teilwng’

“Byddai rhoi lle teilwng i’n sefydliad datganoledig ni ymhlith y deddfwrfeydd cenedlaethol eraill,” meddai Andrew RT Davies, sy’n cynrychioli Canol De Cymru.

“Ni does angen ail-frandio drud, nac adeilad newydd na mwy o wleidyddion. Yn syml dyma gydnabyddiaeth o aeddfedrwydd y broses ddatganoli.

“Dywed rhai mai dim ond newid enw yw hwn. Dywedaf i fod llawer mewn enw.”

Mae Andrew RT Davies yn dweud ei bod hi’n briodol i ystyried y newid enw yn ystod “prif ddigwyddiad diwylliannol Cymru” – yr Eisteddfod – a dros flwyddyn ar ôl i Gymru ddangos ei “balchder a’i hunaniaeth” yn refferendwm 2011, pan bleidleisiodd 63.5% o blaid pwerau deddfu.

“Rwy’n unoliaethwr sicr, yn falch o Gymru gref ac o undeb cryf rhwng y pedair gwlad, ond credaf ei bod hi’n bryd i sefydliad datganoledig Cymru ddatblygu ymhellach,” ychwanegodd Andrew RT Davies.