I nodi hanner canmlwyddiant y gyfres enwog, mae’r BBC yn gweithio ar ddrama sy’n olrhain dyddiau cynnar ‘Doctor Who’.

Bydd y ffilm 90 munud yn edrych ar sut ddaeth y rhaglen i fodolaeth, gan edrych ar ffigyrau amlwg y gyfres, ers y rhaglen gyntaf i’w darlledu ar 23 Tachwedd, 1963.

Ysgrifennydd y sgript bresennol, Mark Gatiss, fydd yn ‘sgrifennu’r stori ar BBC2 – ‘An Adventure In Space and Time’.

“Dyma stori am sut wnaeth criw annhebygol o bobol greu teledu gwreiddiol go iawn,” meddai Mark Gatiss.

“Mae hi’n freuddwyd cael dweud y stori ar gyfer pen-blwydd ‘Doctor Who’ yn 50.”

Bydd manylion am gastio – gan gynnwys pwy fydd yn chwarae rhan y Doctor cyntaf, William Hartnell – yn cael ei gadarnhau flwyddyn nesaf.

Gwrthododd David Tennant, a fu’n actio rhan y prif gymeriad rhwng 2005 a 2010, cael ei dynnu i mewn i drafodaethau ynglŷn ag ymddangosiad posib yn y rhaglen arbennig.

“Pwy a ŵyr be’ wneith ddigwydd yn y flwyddyn nesaf?” meddai.

Mae’r gyfres ddiweddaraf yn cael ei ffilmio yng Nghaerdydd.