Rhai o fwydydd Kerry Group (Llun o wefan y cwmni)
Cyhoeddwyd heddiw y bydd 318 o swyddi’n caeu eu colli yn Sir y Fflint pan fydd ffatri bwyd wedi’i rewi yn cau ddiwedd mis Ebrill .

Cafodd gweithwyr ffatri Kerry Group yn y Fflint wybod y bydd y ffatri yn cau yn dilyn cyfnod ymgynghori 90 diwrnod o hyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Kerry Group, Frank Hayes, fod y cyfnod ymgynghori wedi ystyried ffyrdd i gadw’r ffatri i fynd.

“Yn anffodus mae’r cwmni wedi edrych ar bob dewis posib, ond heb ddod o hyd i gynllun sy’n gweithio,” meddai.

“Er mwyn parhau fe fyddai angen buddsoddiad sylweddol ar y ffatri a dyw hynny ddim yn bosib.

“Fe fydd y ffatri yn dechrau dod a’r gwaith i ben ynghanol mis Ebrill ac fe fydd y safle’n cau i lawr yn gyfan gwbl ddiwedd mis Ebrill.”

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Darren Millar, fod y newyddion yn “boenus” i bawb oedd wedi eu heffeithio.

“Mae’n ergyd arall i economi Cymru,” meddai. “Mae’n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad roi blaenoriaeth i bobol sy’n colli eu swyddi.

“Dyw rhaglen adnewyddu economaidd Llafur-Plaid ddim i weld yn gwneud unrhyw beth er mwyn osgoi sefyllfaoedd fel hyn.”