Daeth y gwasanaethau brys o hyd i ddau gorff ar arfordir gogledd Cymru, ddoe.
Daethpwyd o hyd i gorff dynes ar draeth Llandrillo-yn-rhos yn Sir Conwy ddoe am 10.30am.
Dyw’r Heddlu ddim yn ystyried ei marwolaeth yn un amheus ar hyn o bryd. Dyw ei henw heb ei ryddhau eto.
Daeth Gwylwyr y Glannau o hyd i gorff arall mewn achos ar wahân tua 12.30pm yn Amlwch, Ynys Môn.
Aethpwyd a chorff y ddynes oedrannus i’r traeth gan griw achub.
Dyw’r Heddlu ddim yn ystyried y farwolaeth yn un amheus ac maen nhw’n gweithio er mwyn sefydlu pam y bu hi farw.
Mae’r crwner wedi cael gwybod am y ddau achos.