Eryri o gopa'r Wyddfa
Mae prisiau tai’n is o fewn Parc Cenedlaethol Eryri nag yn unrhyw un o barciau cenedlaethol eraill Cymru a Lloegr, yn ôl astudiaeth gan fanc Lloyds TSB.

Mae’r arolwg yn dangos hefyd fod y gwahaniaeth rhwng prisiau tai o fewn parc cenedlaethol ac ardaloedd cyfagos yn llawer llai yng Nghymru nag yn Lloegr.

Ar gyfartaledd mae’r pris sy’n cael ei dalu am dŷ yn un o barciau cenedlaethol Cymru a Lloegr eleni’n £365,000, sydd yn £88,000 neu 45% yn uwch nag yn y siroedd o’u cwmpas.

Yn Eryri, fodd bynnag, pris tŷ ar gyfartaledd yw £168,000, ac nid yw hyn ond 6%, neu £8,700 yn uwch nag yn siroedd Gwynedd a Chonwy ar gyfartaledd.

Mae prisiau tai Eryri’n chwe gwaith cymaint â chyflogau lleol ar gyfartaledd.

Ym Mharc Cenedlaethol y New Forest, y lle drutaf yn yr astudiaeth, roedd tai’n costio £475,000 ar gyfartaledd, sy’n 94% yn uwch na’r ardaloedd cyfagos, ac yn fwy na 13 gwaith cyflogau cyfartalog lleol.

Parciau cenedlaethol eraill

Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y pris cyfartalog am dŷ oedd £194,000, a oedd yn £15,000 neu 8% yn uwch nag yng ngweddill Powys.

Roedd prisiau tai ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn £195,000 ar gyfartaledd, 25% neu £15,000 yn uwch nag yn Sir Benfro ar gyfartaledd.

Ym Mharc Cenedlaethol y Peak District yr oedd y gwahaniaeth mwyaf o gymharu ag ardaloedd cyfagos, lle’r oedd prisiau tai dros £300,000 ac yn fwy na dwbl yr ardaloedd cyfagos.

Roedd gwahaniaethau mawr i’w gweld hefyd ym mharciau cenedlaethol Ardal y Llynnoedd (70%), y South Downs (64%) a Dartmoor (50%).