Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod dyn wedi’i ladd gan darw yn Llanfair-ym-Muallt.

“Gallwn gadarnhau bod yr heddlu wedi cael eu galw i fferm yn Llanfair-ym-Muallt nos Iau, 19 Gorffennaf, yn dilyn adroddiad bod dyn wedi cael ei anafu gan darw,” medd datganiad gan Heddlu Dyfed Powys.

Mae Swyddfa’r Crwner eisoes wedi cadarnhau mai ffermwr 74 oed, Arthur Thomas, a fu farw wrth iddo geisio llwytho’r tarw ar drelar.

Dywedodd yr heddlu: “Er gwaetha’r cymorth meddygol, bu farw’r dyn yn fuan a bu’n rhaid i blismyn arfog ddifa’r tarw er mwyn diogelwch y cyhoedd.

“Cafodd neb arall eu hanafu yn y digwyddiad.”

Cafodd y cwest i farwolaeth Arthur Thomas ei agor, ac yna ei ohirio gan y Crwner.