Rhodri Morgan (Stefan Rousseau/PA)
Mae Cymru’n colli miliynau o bunnoedd bob blwyddyn am nad yw’n mynd ati’n ddigon trefnus i gael gafael ar arian Ewropeaidd.

Yn oll un o bwyllgorau’r Cynulliad, mae angen i Lywodraeth, busnesau, prifysgolion a chynghorau lleol gydweithio’n llawer agosach.

Ac mae angen edrych y tu hwnt i’r cronfeydd mawr, fel y rhai cydgyfeiriant a’r hen Amcan Un, i edrych ar gronfeydd ym maes gwyddoniaeth ac addysg.

Fe fydd adroddiad y Pwyllgor ar Ewrop a Materion Allanol yn cael ei lawnsio’n ddiweddarach heddiw – mae’n edrych ar sut y mae Cymru’n manteisio ar gronfeydd ymchwil, arloesi a dysgu.

Meddai Rhodri Morgan

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan, mae gallu manteisio’n llawn ar gronfeydd Ewropeaidd yn allweddol os yw Cymru am ddatblygu economi sydd wedi ei seilio ar wybodaeth.

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi wrth i’r Undeb Ewropeaidd ystyried beth fydd y cronfeydd yn y dyfodol ac wrth i Gymru ddechrau ymgyrchu i gadw ei chyfran hi.

Yn ôl Rhodri Morgan, mae “rhaid i Gymru fod yn rhan o’r drafodaeth honno” ac i feddwl mewn ffordd Ewropeaidd wrth i’r rhaglenni newydd gael eu hystyried.