Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud eu bod nhw’n” siomedig iawn” nad yw’r Grid Cenedlaethol yn ymrwymo i ddefnyddio  ceblau tanddaearol i gludo trydan o orsaf drydan ddadleuol Cefn Coch ger Llanfair Caereinion i Loegr.

Maen nhw hefyd wedi datgan eu syndod fod Cefn Coch, sydd ymhellach oddi wrth y Grid yn Lloegr, wedi cael ei ddewis fel lleoliad yr orsaf drydan yn hytrach nag Abermiwl, sy’n nes at y ffin.

Roedd astudiaethau wedi nodi fod llwybr y peilonau ym Mhowys yn “fwy sensitif” na’r llwybr a fydd yn cael ei ddefnyddio yn Swydd Amwythig a dywed Cyngor Cefn Gwlad Cymru eu bod nhw am ddeall pam fod y llwybr hiraf a mwyaf sensitif wedi cael ei ddewis.

Bwriad y Grid Cenedlaethol yw defnyddio peilonau i gludo trydan melinau gwynt o Gefn Coch, ar hyd yr afon Efyrnwy i Lansanffraid, ac yna i Swydd Amwythig. Bydd y llwybr yn pasio Dyffryn Meifod a safle hen lys tywysogion Powys ym Mathrafal.

‘Effaith ddifrifol ac annerbyniol’

Dywed y Cyngor Cefn Gwlad y byddai methu â gosod ceblau tanddaearol yn cael “effaith ddifrifol ac annerbyniol ar y tirwedd.”

Maen nhw am gynnal astudiaethau ar lwybr y cyflenwad “fel y gellir dod o hyd i ffyrdd o leihau a lliniaru’r effeithiau amgylcheddol.”

Dywed y Grid Cenedlaethol eu bod nhw’n ystyried gosod ceblau dan ddaear yn ogystal â chodi peilonau.

Yn gynharach eleni dywedodd rheolwr y prosiect, Jeremy Lee, y byddai’r datblygiad ym Maldwyn yn “cael effaith am flynyddoedd maith i ddod” a’i fod yn hanfodol fod y Grid Cenedlaethol yn gwneud y penderfyniad cywir wrth ddewis lleoliad yr orsaf drydan.