Nick Phillips
Mae dawnsiwr wedi disgrifio ei orfoledd am ddychwelyd i’r llwyfan bron i bymtheg mlynedd ers i ddamwain ei barlysu.

Torrodd Nick Phillips, 38, ei gefn ar ôl disgyn o drydydd llawr adeilad tra mewn parti dros 14 mlynedd yn ôl.

Ond mae’r perfformiwr o Hafod, Abertawe, wedi cael rhan mewn sioe  newydd, ‘In Water I’m Weightless’.

“Mae bod yn ddawnsiwr sydd wedi’i barlysu, yr run fath â bod yn beintiwr heb frwsh paent,” meddai Nick Phillips.

“Dyw e heb newid y ffordd dw i’n teimlo ar lwyfan,” meddai. “Dw i jest digwydd bod mewn cadair olwyn.”

Dyma fydd y tro cyntaf i gynhyrchiad gynnwys cast cyfan o actorion anabl ac mae sgriptiwr y sioe, Kaite O’Reilly, sy’n wreiddiol o Ddulyn ond bellach yn byw ym Mae Ceredigion, yn teimlo fod y penderfyniad yn un amlwg.

“Mae e’n fy rhyfeddu i fod actorion sydd ddim gydag anabledd yn actio rhywun sydd ag anabledd,” pwysleisiodd.

“I mi, mae hynny fel person gwyn yn actio rhan Othello.”

Bydd ‘In Water I’m Weightless’ yn rhedeg yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, tan 4 Awst ac yng Nghanolfan Southbank, Llundain, o 31 Awst tan 1 Medi.