Mae’r tywydd gwlyb yn ystod Mehefin a dechrau Gorffennaf wedi cael effaith ddrwg ar ansawdd dŵr yng Nghymru medd Asiantaeth yr Amgylchedd.

Arweiniodd y glaw trwm at lifogydd mewn rhannau o Gymru, yn arbennig yng ngogledd Ceredigion, ac mae wedi cael effaith ar ansawdd dŵr hefyd medd yr Asiantaeth.

“Mae rhai traethau wedi ei chael hi’n anodd i gyrraedd y safonau disgwyliedig,” meddai Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Mae swyddogion arbrofi’r Asiantaeth wedi canfod bod lefelau bacteria wedi codi wrth i lygredd olchi i mewn i afonydd o gaeau ac ardaloedd trefol.

Mewn rhai achosion mae carthffosiaeth wedi ei olchi gan y lefelau dŵr uchel i mewn i’r afonydd.

Tywydd gwell yn llesol

Dylai’r tywydd gwell diweddar leihau lefelau’r bacteria medd Asiantaeth yr Amgylchedd, gan fod pelydrau uwchfioled yr haul yn medru lladd bacteria.

Mae cyfarwyddyd newydd ar gyfer ansawdd dŵr ymolchi yn cael ei gyflwyno gan yr Undeb Ewropeaidd yn 2015, a bydd y safonau’n llymach na’r rhai presennol.